Croeso i Gymwysterau yng Nghymru (QiW)

Mae'r gronfa ddata hon, QiW, dan berchnogaeth a rheolaeth Cymwysterau Cymru, y rheoleiddiwr cymwysterau nad ydynt yn raddau, a'r system gymwysterau, yng Nghymru. Mae QiW yn cynnwys manylion yr holl gymwysterau sy'n cael eu rheoleiddio gan Gymwysterau Cymru.

Mae hyn yn cynnwys manylion yr holl gymwysterau sydd wedi'u cymeradwyo neu eu dynodi ar gyfer addysgu yng Nghymru i ddysgwyr dan 19 oed, ac eithrio addysg uwch.

Bydd unrhyw gymwysterau sydd wedi'u cymeradwyo neu eu dynodi gan Cymwysterau Cymru yn gymwys i gael arian gan Awdurdod Lleol neu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r arian hwn ar gyfer y darparwr addysg, nid y dysgwr.

Bydd pob cymhwyster yn QiW yn cael cod adnabod unigryw o'r enw Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymwysterau Cymru. Dylai canolfannau ddefnyddio'r rhif hwn wrth wneud dewisiadau cwricwlwm.

Cymwysterau Cenedlaethol

Cymwysterau Cenedlaethol

Cymwysterau Cenedlaethol yw'r cymwysterau newydd i ddysgwyr 14-16 oed yng Nghymru. Bydden nhw i gyd yn eu lle erbyn mis Medi 2027. Bydd hyn yn cynnwys cymwysterau o lefel mynediad i lefel 2, ar draws ystod o bynciau.

Cymwysterau Cymru Adeilad Q2, Lôn Pencarn, Parc Imperial, Coedkernew Casnewydd NP10 8AR Cyfarwyddiadau Yn agor mewn ffenestr newydd
I Google Maps gyda'r cyrchfan wedi rhagosod